Cadw Ein Hysgolion - Cadw Ein Hysgolion
nôl i'r hafanddalen - back to homepage

Hafan | Newyddion | Digwyddiadau | Gwybodaeth | Trafodwch | Dolenni | Cysylltwch
Home | News | Events | Information | Discuss | Links | Contact Us

Cyfarfod Cyhoeddus, Caerfyrddin, CYIG, 25/10/05

Mae Cymdeithas yr Iaith a Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr wedi bod yn gweithio’n agos drwy gydol yr ymgyrch.

CYFARFOD CYHOEDDUS
Rhowch gyfle i bobol Sir Gâr i fynegi eu barn am y Strategaeth addysg.
Gwesty’r Llwyn Iorwg
25ain Hydref am 7yh

Croeso i Bawb

Mae’r Gymdeithas wedi herio cynghorwyr Sir Gâr i roi cyfle i bobl y sir leisio eu barn ar y Strategaeth Addysg, trwy gefnogi cynnig yn galw am drafodaeth ehangach ar y 9fed o Dachwedd. Yn ei llythyr at y Cynghorwyr, dywed y Gymdeithas: Does DIM trafodaeth agored ac onest wedi bod hyd yma am:

* Y posibilrwydd o gau ysgolion pentref. Mae’r MEP yn nodi’n unig: ‘y byddai’n anochel fod llai o ysgolion’.

* ddulliau eraill fel clystyru na ffedereiddio ysgolion.

* Cafodd y diweddariad o’r Cynllun ei fabwysiadu yn Mai 2004 gan swyddogion heb hyd yn oed gyfeirio’r mater at y Cynghorwyr.

* Ni fydd yr ymgynghori statudol mewn ysgolion unigol yn deg nac yn onest, oherwydd fod y Cyngor yn dibynnu ymlaen llaw ar gau a gwerthu llawer o’r ysgolion er mwyn talu rhan o gost adeiladu’r ysgolion canolog newydd.

Bydd y Gymdeithas yn cyhoeddi yn y cyfarfod rhestr o gynghorwyr sydd wedi cytuno i gefnogi cynnig o’r fath.

Cysylltwch â’ch Cynghorydd lleol i bwyso arno/arni i bleidleisio dros y cynnig a rhowch wybod i Angharad Clwyd beth yw’r ymateb: 01559 384378 neu angharad.clwyd@cymdeithas.com

 

nôl i'r brig - back to the top